Senedd Cymru
Mehefin 2020
Diwygio Rheolau Sefydlog: Pleidleisio o Bell
Diben
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), y Pwyllgor Busnes sy'n gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.
2. Mae'r adroddiad yn argymell newidiadau i Reol Sefydlog 34. Mae'r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd yn Atodiad A.
Y cefndir
3. Cytunodd y Pwyllgor Busnes, ar ôl ystyried yn gyntaf, effaith bosibl yr achosion o Covid-19 ar fusnes y Senedd ddiwedd mis Mawrth 2020, i gyflwyno nifer o weithdrefnau brys newydd o dan Reol Sefydlog 34. Ymhlith y darpariaethau hyn roedd Rheol Sefydlog newydd 34.11 sy'n darparu ar gyfer pleidleisio wedi'i bwysoli yn y Cyfarfod Llawn lle mae'r Llywydd yn penderfynu bod ei angen i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Mae pob pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ers 1 Ebrill wedi'i chynnal gan ddefnyddio pleidleisio wedi'i bwysoli, yn absenoldeb unrhyw gyfleuster i'r Aelodau bleidleisio'n unigol o leoliadau o bell.
4. Mae'r Pwyllgor Busnes nawr yn edrych i gyflwyno system bleidleisio electronig o leoliadau o bell yn y dyfodol agos, y gellid ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd cwbl rithwir a hybrid.
5. Gellir gweld y newidiadau sy'n ofynnol i'r Rheolau Sefydlog i gyflwyno system o'r fath yn Atodiad A. Mae'r newidiadau yn hwyluso cyflwyno system o'r fath trwy drechu'r gofyniad yn Rheol Sefydlog 12.41 i Aelodau bleidleisio 'yn bersonol'. Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn rhoi disgresiwn i'r Llywydd benderfynu, mewn ymgynghoriad â'r Pwyllgor Busnes, pryd y dylid defnyddio pleidleisio o bell am resymau iechyd cyhoeddus.
Camau i’w cymryd
6. Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 15 Mehefin 2020, a gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad A.
34. RHEOL SEFYDLOG 34 - Gweithdrefnau Brys
Pleidleisio yn y Cyfarfod Llawn
34.14A Pan fo'r Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, yn penderfynu ei fod yn ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, gellir gwneud trefniadau i'r Aelodau bleidleisio o unrhyw leoliad trwy ddulliau electronig.
34.14B Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 12.41A-H, rhaid i'r Aelodau fwrw eu pleidlais yn unigol (ond nid yw'n ofynnol iddynt bleidleisio).
34.14C Mae Rheolau Sefydlog 34.14A a 34.14B yn berthnasol i'r holl fusnes yn y Cyfarfod Llawn.
31.14D Pan gynhelir pleidleisiau yn unol â
Rheol Sefydlog 34.14A, nid yw Rheol Sefydlog 12.44 yn gymwys, ond
cyn cymryd unrhyw bleidlais, rhaid i'r Llywydd atal y trafodion
dros dro am o leiaf bum munud. Os yw pleidleisiau i gael eu cymryd
yn syth ar ôl ei gilydd, dim ond unwaith y mae angen atal y
trafodion dros dro.
Pleidleisio mewn Pwyllgorau
34.14E Pan fo Cadeirydd pwyllgor yn penderfynu ei fod yn ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, gellir gwneud trefniadau i gynnal pleidlais mewn pwyllgor drwy ddull electronig, ac i'r Aelodau bleidleisio o unrhyw leoliad.
34.14F Mae Rheol Sefydlog 34.14D yn gymwys i'r holl fusnes mewn pwyllgor.